Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r safonau uchaf mewn perthynas â diogelu’r plant a’r bobl ifanc yr ymddiriedir yn ein gofal.
Rydym yn cefnogi pob myfyriwr trwy:
- Darparu amgylchedd gofalgar, diogel a chadarnhaol o fewn yr ysgol
- Annog cyfathrebu, hunan-barch, a hunan-bendantrwydd
- Mynd i'r afael yn effeithiol â bwlio ac aflonyddu
- Hyrwyddo pob agwedd ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- Hyfforddi’r holl staff mewn Amddiffyn a Diogelu Plant i’r lefel briodol a sicrhau eu bod yn ymwybodol o weithdrefnau diogelu yn ein hysgol
- Darparu’r seilwaith ar gyfer adrodd yn effeithiol, cadw cofnodion, a gweithio mewn partneriaeth
Disgwyliwn i holl staff ac ymwelwyr ein hysgol ymddwyn mewn modd sy'n sicrhau bod ein plant yn cael eu diogelu bob amser. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu i’r Person Diogelu Dynodedig (DSP) neu’r Dirprwy Berson Diogelu Dynodedig (DDSP).